Neidio i'r prif gynnwys

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Cymuned yw’r man cychwyn

Rydym yn ariannu prosiectau sy’n helpu pobl i gysylltu, tyfu ac adeiladu dyfodol gwell. Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sy’n wynebu tlodi, anfantais neu wahaniaethu. Erbyn 2030, byddwn yn rhannu dros £4 biliwn i greu cymunedau cryfach a thecach ledled y Deyrnas Unedig.

Darllen ein strategaeth.

Ein 4 nod a arweinir gan y gymuned

Mae cymunedau cryfach yn creu dyfodol mwy disglair, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiectau gwych a arweinir gan bobl leol. Dyma’r nodau a arweinir gan y gymuned a fydd yn ein helpu ni i adeiladu cymdeithas fwy caredig ac iach.

Cymunedau yn dod ynghyd

Dysgwch am y manteision y gobeithiwn eu gweld pan fydd cymunedau yn meithrin cysylltiadau, yn lleihau unigrwydd ac yn creu gofodau lle mae croeso i bawb.

Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu

Edrychwch ar y newidiadau cadarnhaol rydym am i brosiectau eu cyflawni i fabanod, plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu, cysylltu ac adeiladu dyfodol mwy disglair.

Cymunedau yn iachach

Dysgwch am y gwelliannau rydym am eu gweld mewn lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, a sut y gall prosiectau helpu cymunedau i fyw bywydau iachach.

Mae cymunedau'n gynaliadwy o ran yr amgylchedd

Archwiliwch y canlyniadau rydym am eu gweld gan brosiectau sy’n diogelu natur, lleihau niwed i’r amgylchedd ac yn helpu cymunedau i ymateb i newid hinsawdd.

Newyddion

Meithrin Natur – mynediad i’r amgylchedd naturiol sy’n newid bywydau go iawn

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio Meithrin Natur - rhaglen newydd gwerth £10 miliwn i gefnogi iechyd a lles babanod.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi Dr. David Halpern CBE fel cynghorydd i’r Bwrdd

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Dr. David Halpern CBE fel cynghorydd i’r Bwrdd.

Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid 2025 | Dewch i gwrdd â'n Cynghorwyr Llais Ieuenctid newydd

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ieuenctid, rydym yn tynnu sylw at ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid newydd a fydd yn gwneud argraff werthfawr ar ein gwaith fel ariannwr.

Munud i feddwl – un flwyddyn o’r cynllun corfforaethol

Yr adeg hon y llynedd, fe wnaethon gyhoeddi ein cynllun corfforaethol i amlinellu sut rydym am gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol.