Newyddion
Croesawu pŵer cyfunol canu gyda chorau effaith cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol
Heddiw, mae 122 o grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dathlu derbyn cyfran o dros £6.5 miliwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grantiau hyn yn helpu grwpiau i gyflawni eu gwaith pwysig ac amrywiol wrth gefnogi eu cymunedau.
£12 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd ledled y DU, wrth i adroddiad newydd ddangos gwerth cymuned
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, wedi rhoi hwb ariannol hanfodol o £12 miliwn i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd ledled y DU.
Dros £4 miliwn i Gymru gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi iechyd a lles cymunedau
Y mis hwn, mae 106 o grwpiau cymunedol yn dathlu cyfran o £4,173,714 mewn grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda llawer o'r grantiau'n canolbwyntio ar annog cymunedau i fyw bywydau iachach, a chefnogi lles corfforol a meddyliol pobl.
2024: Ysbryd cymunedol yn disgleirio yng nghymunedau'r DU wrth iddynt baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod
mae ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn datgelu bod ymdeimlad pobl o ysbryd cymunedol ac awydd pobl i gefnogi eraill.
Croeso i 2024
Dyma ein Prif Weithredwr yn adlewyrchu ar y flwyddyn a fu ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i fwy na 100 o grwpiau cymunedol yng Nghymru
Mae 125 o grwpiau cymunedol yn rhannu mwy na £4.75 miliwn mewn grantiau y mis hwn, o'r cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru. Mae mwy na 100 o'r grantiau yn dod o raglen grantiau fwyaf poblogaidd y Gronfa - Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.
Cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf y gaeaf hwn gyda £4.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau Cymru.
Y mis hwn dathlodd 107 o grwpiau cymunedol eu bod wedi derbyn cyfran o £4,543,379. Gyda chostau byw ac effaith y pandemig yn dal i gael eu teimlo gan lawer, mae grwpiau cymunedol yn dod ynghyd i gefnogi eu cymunedau, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Cymunedau ledled Cymru yn rhannu £2.4 miliwn ar gyfer achosion da ym mis Gorffennaf.
Cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru heddiw fod mwy na 110 o gymunedau ledled Cymru wedi ymgeisio’n llwyddiannus am grantiau gwerth cyfanswm o £2,462,329. Mae'r grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r sefydliadau llwyddiannus yn cynnwys,Mae Cerebral Palsy Cymru yn derbyn hanner miliwn o bunnoedd i gefnogi mwy o blant gyda therapi. Mae The Anne Matthews Trust wedi derbyn grant £9830 i osod lle tân coed a gwydr dwbl yn eu Canolfan, gan ddefnyddio coed tân cynaliadwy o’u safle a lleihau eu biliau. Ac yn olaf, derbyniodd Sir Gareth Edwards Cancer Charity bron i £10,000 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu triniaeth am ganser.
£1 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol i gymunedau’r DU i goffáu Windrush 75
Mae mwy na 100 o grwpiau cymunedol ledled y DU wedi derbyn cyfran o bron i £1 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.