Neidio i'r prif gynnwys

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Gallwn ariannu prosiectau sydd wedi’u datblygu’n hollol, neu brosiectau sydd wrthi’n cael eu datblygu

Gall prosiectau ymgeisio am hyd at £1.5 miliwn am gyfnod o 2 i 5 mlynedd. Rydym ni’n disgwyl i’r rhan fwyaf o’r cyllid fynd i brosiectau sy’n gofyn am £300,000 i £500,000.

Os yw eich syniad prosiect yn dal i gael ei ddatblygu, gallwn gynnig grant o £50,000 hyd at £150,000 am gyfnod o 12 i 18 mis. Gallwch ymgeisio am ragor o gyllid yn nes ymlaen, ond ni allwn warantu y byddwn ni’n dyfarnu rhagor o arian.

Gallwch chi wario eich arian ar:

  • gostau staff
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau cyffredinol y prosiect
  • gweithgareddau ymgysylltu
  • dysgu a gwerthuso
  • cyfleustodau neu gostau cynnal
  • datblygiad sefydliadol a chostau rheoli
  • rhai costau cyfalaf – gallai hyn fod i brynu offer neu brynu, lesio, adnewyddu neu ddatblygu tir ac adeiladau, neu waith adeiladu arall.

Er ein bod ni’n gallu ariannu elfennau cyfalaf o’ch gwaith, dylech allu rhoi tystiolaeth o berchnogaeth neu les gyda mynediad gwarantedig i’r tir am o leiaf 5 mlynedd. Mae’n rhaid i chi fodloni ein telerau ac amodau penodol os ydych chi'n prynu, adnewyddu neu'n datblygu tir neu adeiladau gyda'n cyllid. Efallai bydd angen cymorth arnoch gan weithiwr cyfreithiol proffesiynol i sicrhau eich bod chi’n bodloni ein gofynion. Os yw eich prosiect yn cynnwys cyllid cyfalaf, dywedwch wrthym amdano yn eich ffurflen gais cam cynnar a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i roi rhagor o wybodaeth petai eich prosiect yn cyrraedd y cam nesaf.

Rydyn ni’n disgwyl ariannu costau refeniw yn bennaf

Mae ein ffocws ar gynyddu cyfranogiad â gweithredu hinsawdd a chefnogi newid ymddygiad yn golygu yr ydym ni’n disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’n cyllid yn mynd tuag at gostau refeniw. Byddwn ni’n ystyried ariannu costau cyfalaf os yw’r bartneriaeth yn gallu dangos:

  • sut y gallai hwyluso newid ymddygiad a ffordd o fyw
  • sut y bydd hi’n ehangu cyfranogiad
  • sut y bydd hi’n gynaliadwy’n ariannol (er enghraifft, lle gallai ein hariannu ddatgloi rhagor o fuddsoddiad ariannol gan ffynonellau eraill).

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau gwleidyddol sy’n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw weithredu sydd wedi’i dargedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • alcohol
  • eitemau a fydd ond yn buddio unigolyn neu deulu, yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • cynhyrchu trydan
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ni ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect yn buddio’r gymuned ehangach ac nad oes cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei adhawlio
  • gweithgareddau statudol
  • costau sydd eisoes wedi codi
  • gweithgareddau sy’n gwella cyrhaeddiad addysgol - addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (ABGI), gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), Saesneg
  • teithio dramor neu brosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i’r DU.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau am leihau eich effaith amgylcheddol.

Mae gan ein Hyb Hinsawdd wybodaeth am ein dull i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.

Cynnal eich prosiect yng Nghymru

Os yw un o’r gwledydd yr ydych chi’n gweithio ynddynt yn cynnwys Cymru, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau’n ddwyieithog (yn Gymraeg ac yn Saesneg). Mae hyn yn rhan o’n hamod grantiau. Gallwch ddarllen ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog (PDF, 127 KB).

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwe

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy’n egluro sut fyddan nhw’n ddiogel. Efallai byddwn ni’n gofyn i weld y polisi hwn os ydym ni’n penderfynu rhoi cyllid i chi. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein polisi diogelu ar gyfer deiliaid grant.

Ymrwymiadau'r DU ar reoli cymorthdaliadau

Mae ein grantiau’n dod o arian cyhoeddus a bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gofyn i gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rhyngwladol y DU ar Reoli Cymorthdaliadau a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o ganllawiau arnoch.

Mae’n rhaid i’n cyllid fod yn ychwanegol ac ar wahân i gyllid cyhoeddus

Mae hyn yn golygu na allwn ni amnewid neu ddisodli cyllid cyhoeddus. Ni allwn ni ariannu unrhyw beth sy’n gyfrifoldeb statudol neu gyfreithiol ar y llywodraeth neu’r sector cyhoeddus, megis addysg uniongyrchol a gofal iechyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallem ni ariannu gwaith sy’n ategu neu’n ychwanegu gwerth at arian cyhoeddus.