Neidio i'r prif gynnwys

Sut i ymgeisio

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

  1. Byddwn ni’n asesu eich cais – rydyn ni’n gwneud penderfyniadau ar sail dreigl ac rydyn ni’n disgwyl y bydd galw uchel am ein hariannu, felly dim ond y ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf cryfaf y byddwn ni’n gallu eu cymryd i’r cam nesaf. Ni fyddwn ni’n gallu rhoi adborth unigol i geisiadau aflwyddiannus yn ystod cam 1.
  2. Byddwn ni’n gwneud penderfyniadau cynnar – byddwn ni’n bwriadu dweud wrthych os ydych chi wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn deg wythnos. Yn y cyfamser, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth am eich prosiect.
  3. Os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth – gallwch ddod o hyd i ba wybodaeth y byddwn ni’n gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn. Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn trefnu ymweliad prosiect neu alwad â chi a’ch partneriaid i drafod eich prosiect.
  4. Byddwn ni’n gwneud penderfyniad terfynol – bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Byddwn ni’n bwriadu dweud ein penderfyniad terfynol wrthych o fewn tua phedwar mis o gael eich gwahodd i’r ail gam.
  5. Os yw eich cais yn llwyddiannus – byddwn ni’n cysylltu â chi gyda’r newyddion da! Dyma’r hyn sy’n digwydd pan rydych chi’n derbyn cyllid. Byddwn ni hefyd yn trafod sut allwn ni eich helpu i:
    • ddathlu a hyrwyddo eich cyllid
    • rhannu eich dysgu ag eraill gan gynnwys deiliaid grant eraill ac ymgeiswyr y dyfodol i gyfrannu at gydweithredu ehangach yn y meysydd hyn.