Pwy sy’n gallu ymgeisio a pheidio
Byddwn ni’n derbyn ceisiadau gan naill ai:
- partneriaethau lleol
- partneriaethau DU gyfan sy’n cael eu cynnal mewn o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru).
Hoffem ariannu partneriaethau sy’n cynnwys cymysgedd o sefydliadau o wahanol sectorau. Gallwn ariannu partneriaethau newydd a phartneriaethau sydd eisoes wedi cael eu sefydlu. Yn ystod y cam hwn, rydym ni’n chwilio am y sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i siarad ar ran y bartneriaeth.
Mae’n rhaid i’r sefydliad hwn fod yn naill ai:
- grŵp neu glwb cyfansoddiadol
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
- elusen gofrestredig
- sefydliad corfforedig elusennol (SCIO/CIO)
- cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
- cwmni nid-er-elw sy’n gyfyngedig trwy warant – mae’n rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig neu fod â chymal ‘clo asedau’ nid-er-elw yn eich erthyglau cymdeithasu
- ysgol, coleg, prifysgol (cyhyd â bod eich prosiect yn elwa ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
- corff statudol (gan gynnwys tref, plwyf a chyngor cymunedol)
- cwmni budd cymunedol.
Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:
- unigolion
- unig fasnachwyr
- sefydliadau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, rhanddeiliaid neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig gan Gyfranddaliadau) – ni allwn ariannu’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol ond maen nhw’n gallu cefnogi eich prosiect
- sefydliadau y tu allan i’r DU
- un unigolyn neu sefydliad sy’n ymgeisio ar ran un arall
- sefydliadau nad oes ganddynt o leiaf dau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn briod, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad, neu’n perthyn trwy waed.
Os ydych chi’n ysgol neu’n sefydliad sy’n gweithio mewn ysgol
Mae angen i’ch prosiect gryfhau’r gymuned y tu allan i’r ysgol hefyd, Dylai elwa a chynnwys mwy nag athrawon, disgyblion neu rieni disgyblion yn unig.
Ni fyddwn ni’n ariannu prosiectau ysgol sy’n:
- gwella cyfleusterau neu gyfarpar ysgol nad ydynt ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio
- helpu gyda hyfforddiant staff
- rhan o’r cwricwlwm ysgol
- cynnwys gweithgareddau y dylai’r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect yn dysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
- cael eu cynnal yn ystod amseroedd dysgu (gall cyn ysgol ac ar ôl ysgol fod yn iawn).
Ni allwn dderbyn sawl cais gan yr un grŵp neu sefydliad.